Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 13 Ionawr 2015 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.00 - 10.27 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Darren Millar AC (Cadeirydd) William Graham AC Mike Hedges AC Julie Morgan AC Jenny Rathbone AC Aled Roberts AC Sandy Mewies AC Jocelyn Davies AC (yn lle Alun Ffred Jones AC) |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
||||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Michael Kay (Clerc) Leanne Hatcher (Ail Glerc) Matthew Mortlock (Swyddfa Archwilio Cymru) Jeremy Morgan (Swyddfa Archwilio Cymru) Nick Selwyn (Swyddfa Archwilio Cymru) Huw Vaughan Thomas (Archwilydd Cyffredinol Cymru)
|
|||
|
|
||||
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Alun Ffred Jones.
1.3 Croesawodd y Cadeirydd Jocelyn Davies a oedd yn dirprwyo ar ran Alun Ffred Jones.
2 Papurau i’w nodi
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3 Cyflogau Uwch Reolwyr - Trafod ymateb Llywodraeth Cymru
3.1 Trafododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad ar Gyflogau Uwch Reolwyr, ynghyd â chyngor yr Archwilydd Cyffredinol.
3.2 Gofynnwyd i ymgynghorydd cyfreithiol y Pwyllgor ddarparu nodyn briffio ar y Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio.
3.3 Bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at CLlLC i ofyn i'r gymdeithas ddosbarthu'r adroddiad ac ymateb Llywodraeth Cymru i arweinwyr awdurdodau lleol.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5 Sesiwn Friffio gyda Swyddfa Archwilio Cymru ar Reoli Effaith Newidiadau Diwygio Lles
5.1 Trafododd y Pwyllgor adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar reoli effaith newidiadau diwygio lles ar denantiaid tai cymdeithasol yng Nghymru, a nododd bod y Cadeirydd wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru i'r adroddiad.
5.2 Datganodd Julie Morgan fuddiant am fod ei merch yn cael ei chyflogi gan Shelter Cymru.
6 Cwmpas yr Ymchwiliad i Draffyrdd a Chefnffyrdd: Gwerth am Arian
6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar gwmpas yr ymchwiliad i draffyrdd a chefnffyrdd: gwerth am arian, a chytunodd i ysgrifennu at randdeiliaid i ofyn am eu barn.
7 Craffu ar Gyfrifon 2013-14: Trafod y materion allweddol
7.1 Trafododd y Pwyllgor faterion allweddol yr adroddiad Craffu ar Gyfrifon 2013-14.
7.2 Datganodd Sandy Mewies fuddiant am ei bod yn aelod o Gomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac esgusododd ei hun o'r trafodaethau ar gyfrifon y Comisiwn.